Maes Eisteddfod yr Urdu ym Mhencoed eleni
Ar ddiwrnod olaf Eisteddfod yr Urdd Pen-y-bont ar Ogwr, cyhoeddodd y trefnwyr fod 89,943 wedi ymweld â’r ŵyl eleni.

Roedd dros 15,000 yn cystadlu yn ystod yr wythnos, gyda dros 269 o staff a gwirfoddolwyr yn sicrhau rhediad llyfn yr ŵyl.

Roedd clipiau o’r pafiliwn i’w gweld ar wefan You Tube, a gafodd eu gwylio 72,613 o weithiau am gyfanswm o 100,074 munud.

Meddai Aled Siôn, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod:

“Rydym wedi cael Eisteddfod wych ym Mhencoed, gyda phopeth wedi mynd yn hwylus.  Roedd safon y cystadlu yn uchel iawn – yn y pafiliwn a thu hwnt, ac rydym yn hynod falch o allu cynnig y platfform hwn i blant a phobl ifanc Cymru ddangos eu doniau mewn cynifer o feysydd gwahanol.

“Hoffwn ddiolch i’r noddwyr am eu cefnogaeth i’n gŵyl ac i’r byddin o staff a gwirfoddolwyr am eu gwaith di-flino yn ystod yr wythnos.”

Un o’r gwirfoddolwyr sydd wedi bod yn hynod brysur yn ystod yr wythnos yw Tegwen Ellis, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith lleol.

“Mae hi wedi bod yn wythnos fythgofiadwy ac mae cyfraniad y bobl leol dros y ddwy flynedd diwethaf wedi bod yn anhygoel,” meddai.  “Hoffwn ddiolch i staff yr Urdd am eu cefnogaeth ac i’r holl wirfoddolwyr, ymwelwyr, cystadleuwyr, beirniaid a hyfforddwyr ac athrawon am eu gwaith caled.

“Y cyfan sydd ar ôl i’w wneud nawr yw dymuno’n dda i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd pan fydd hi yn ymweld gyda Brycheiniog a Maesyfed yn 2018.”