Un o'r faniau gyda'r dechnoleg newydd (Llun Heddlu De Cymru)
Mae Heddlu De Cymru’n creu hanes trwy ddefnyddio technoleg newydd i chwilio am wynbau troseddwyr y tu allan i rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd y penwythnos yma.

Fe fyddan nhw’n defnyddio camerâu a rhaglenni cyfrifiadurol sy’n gallu adnabod wynebau – er mwyn chwilio am werthwyr tocynnau answyddogol, ymosodwyr posib, troseddwyr eraill a phobol sydd ar goll.

Dyma’r tro cynta’ i dechnoleg o’r fath gael ei defnyddio yn y maes mewn digwyddiad chwaraeon mawr.

‘Angenrheidiol’

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru wedi ceisio tawelu ofnau am effaith y drefn ar hawliau dynol a phreifatrwydd.

Fe ddywedodd Alun Michael ei fod yn fodlon fod y trefniadau a’r prosesau cywir yn cael eu dilyn.

“Mae’n angenrheidiol i ni ddatblygu ein dulliau a chofleidio technoleg er mwy cynnal cymunedau diogel a hyderus,” meddai.

Sut mae’n gweithio

Fe fydd nifer o safleoedd camera ar hyd a lled canol Caerdydd a’r rheiny wedi eu cysylltu â rhaglenni cyfrifiadurol sydd wedi eu datblygu gan gwmni NEC.

Fe fydd y rheiny’n gallu adnabod wynebau a’u matsio gyda rhestrau sydd gan yr heddlu eisoes.

“Fe fydd yn ein helpu i adnabod pobol sydd o ddiddordeb i ni, yn gynt ac yn fwy cywir,” meddai’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Richard Lewis.

“R’yn ni’n ymwybodol iawn o bryderon am breifatrwydd ac yn cynnwys dulliau rheoli er mwyn tawelu meddyliau’r cyhoedd fod ein hagwedd yn gyfiawn a chymesur.”