Mared Llywelyn Williams (Llun: golwg360)
Mae’r Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd 2017 yn mynd i Mared Llywelyn Williams, 24 oed, o Forfa Nefyn.

Mae’n cipio’r Fedal am waith dan y teitl Lôn Terfyn a’i ffugenw oedd ‘Dwnad’. Mae wedi bod yn cystadlu mewn eisteddfodau lleol a’r Urdd ers blynyddoedd gydag Ysgol Botwnnog, Aelwyd Chwilog ac Aelwyd Pantycelyn.

Mae’r ddrama yn mynd i’r afael â “byd sy’n llawn tensiynau bregus gwleidyddol,” meddai Alun Saunders ar ran yntau a’i gyd-feirniad Siân Summers.

Y theatr yw ei phrif ddiddordeb, ac yn gynharach yn y flwyddyn ffurfiodd Cwmni Tebot gyda’i ffrindiau, cwmni theatr amatur lleol.

Roedd y beirniad, Alun Saunders a Sian Summers, yn gweld y ddrama hon “nid yn unig yn ymateb yn gyffrous i’r briff a osodwyd, ond mae iddi’r holl elfennau sy’n creu drama lwyfan afaelgar.”

“Mae’r iaith – fel mynegiant o agweddau’r cymeriadau – yn eofn ac hyderus wrth fynd i’r afael â byd yn llawn tensiynau bregus gwleidyddol.  O’r cychwyn cyntaf cawn ein cyflwyno i fyd a pherthynas gyfareddol y cymeriadau – mae’r ddawn gan y Dramodydd i blannu gwirioneddau’r cymeriadau hyn yn yr is-destun gan ymddiried yn y darllenydd neu’r gynulleidfa i archwilio a darganfod eu dehongliad.

“Yn ein barn ni, mae safon ac uchelgais y ddrama hon yn llawn haeddiannol o’r Fedal Ddrama.”

Chwaer fach Mared, Lois Llywelyn Williams, enillodd y Fedal Ddrama yn 2016, gyda Mared yn drydydd yr adeg hynny. Mae’n gweithio i Wasanaeth Llyfrgelloedd Gwynedd yn Nefyn ac wedi graddio o Brifysgol Aberystwyth a gradd MA Ysgrifennu Creadigol.