Fe fydd gwasanaeth angladdol cyn-Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, yn cael ei gynnal yn y Senedd ym Mae Caerdydd fore heddiw.

Fe dreuliodd cyn-arweinydd Llafur Cymru ddeng mlynedd yn y brif swydd, yn ystod gyrfa wleidyddol a barodd dros 30 o flynyddoedd.

Adeg ei farwolaeth ar Fai 17, cafodd ei ddisgrifio gan Jeremy Corbyn fel un o gewri Llafur, tra bod Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns wedi’i alw’n “was ffyddlon i Gymru”.

Bydd y gwasanaeth dyneiddiol yn un cyhoeddus, ac yn dechrau am 11 o’r gloch. Y cyn-Aelod Cynulliad Llafur, Lorraine Barrett, fydd yn ei arwain.

Bydd modd gwrando ar y gwasanaeth y tu allan i adeilad y Senedd ac ar wefan www.senedd.tv.

Y gwasanaeth

Ymhlith y rhai fydd yn cymryd rhan yn y gwasanaeth heddiw y mae Aelod Seneddol Llafur Gorllewin Caerdydd, Kevin Brennan; Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones; a chyn-Ysgrifennydd Cymru Paul Murphy.

Fe fydd cyfraniadau hefyd gan y newyddiadurwraig Carolyn Hitt; yr Hennessys; Côr Cochion Caerdydd; yr Aelod Cynulliad Jane Hutt, ynghyd ag aelodau o deulu Rhodri Morgan.

Am resymau diogelwch, mae rhybudd i bobol sy’n dymuno mynd i’r Senedd hediw i gyrraedd yn gynnar. Fe fydd y drysau’n agor am 9.30yb.

Fe fydd gwasanaeth cyhoeddus hefyd yng Nghapel y Wenallt yn Amlosgfa Thornhill, Caerdydd, am 2 o’r gloch yfory.

Gyrfa wleidyddol

Daeth Rhodri Morgan yn Aelod Seneddol dros Orllewin Caerdydd yn 1987 ac fe fu’n llefarydd ar yr amgylchedd ac yn gadeirydd pwyllgor dethol gweinyddiaeth gyhoeddus Tŷ’r Cyffredin cyn symud i’r Cynulliad yn 1999.

Alun Michael oedd Prif Weinidog cyntaf Cymru bryd hynny, ond fe gafodd ei olynu gan Rhodri Morgan yn 2000.

Rhoddodd y gorau i’r swydd yn 2009 ac yntau wedi troi’n 70 oed, ac fe gyhoeddodd ei ymddeoliad o’r byd gwleidyddol y flwyddyn ganlynol.