Mae enillydd y Fedal Gyfansoddi yn Eisteddfod yr Urdd eleni yn “genfigennus” o’r ysgol Gymraeg newydd fydd yn agor yn nhref Hwlffordd y flwyddyn nesaf.

Dyw Ryan Howells, 24 oed, ddim yn siaradwr Cymraeg – a dywedodd nad yw wedi cael y cyfle i “fagu hyder yn yr iaith” am nad oes ysgol uwchradd Gymraeg yn ei ardal.

“Yr unig opsiwn i fi oedd teithio i Ysgol y Preseli (Crymych) a byddai hynny wedi golygu tua awr o deithio bob dydd,” meddai’r bachgen sy’n wreiddiol o Hwlffordd wrth golwg360.

“Dw i’n meddwl y byddai’r ysgol newydd hon wedi bod yn gyfle gwych i mi fynd i ysgol Gymraeg yn agos at fy nghartref,” meddai gan esbonio iddo fynd i Ysgol Syr Thomas Picton yn lle.

Mae disgwyl i’r ysgol 3–16 oed yn ardal Llwynhelyg, Hwlffordd agor erbyn mis Medi 2018.

Alawon ac emynau Cymreig

Er nad yw Ryan Howells, sy’n dechrau ar swydd yn ddeintydd ym Mryste, ym medru’r Gymraeg dywedodd ei fod yn mynd ati i ddysgu’r iaith ar hyn o bryd.

“Dw i’n deall Cymraeg, ond dw i ddim yn hyderus yn yr iaith. Mae fy nghariad yn siarad Cymraeg a byddwn i wrth fy modd i fy mhlant siarad Cymraeg rhyw ddydd,” meddai.

Mae ei waith buddugol wedi’i ysbrydoli gan alawon ac emynau Cymreig gan gynnwys ‘Myfanwy’, ‘Calon Lân’ a ‘Cwm Rhondda’.

“Dw i’n hoffi sgwennu cerddoriaeth sy’n heriol ond y gall pobol ei ddilyn ac uniaethu â hi.”