Mae Cyngor Caerdydd wedi lansio app er mwyn cadw pobol yn ddiogel mewn argyfyngau fel yr un fu ym Manceinion nos Lun.

Mae’r app wedi cael ei gynllunio i anfon hysbysiadau at ffonau pobol i roi gwybod iddyn nhw am unrhyw argyfwng yn y ddinas – boed hynny’n frawychiaeth, tân mawr neu lifogydd.

Bydd hefyd yn rhoi gwybodaeth i bobol am fan peryglus fel y gall pobl osgoi’r rhan yna o’r ddinas, ac os oes angen, cyfeirio pobl i’w man gadael agosaf.

Mae’r app, ‘Evac Caerdydd’ ar gael ar Google Play Store i ffonau Android ac Apple App Store ar gyfer ffonau iPhone.

Cynghrair UEFA

Yr wythnos nesaf, bydd llygaid y byd ar y brifddinas wrth i Gaerdydd groesawu cannoedd ar filoedd o bobol i gemau terfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA, ac mae’r app wedi’i greu i gyd-fynd â hynny.

“Rydyn ni’n gwneud llawer o waith cefndirol i sicrhau bod Caerdydd yn barod ar gyfer unrhyw sefyllfa o argyfwng a gall yr app hwn achub bywydau,” meddai’r Swyddog Rheoli Argyfwng, Gwillym Owen.

“Mae’n bur annhebyg y bydd unrhyw un ohonon ni mewn sefyllfa o argyfwng, ond os ydym yn wynebu’r gwaethaf, bydd derbyn gwybodaeth a bod yn barod, leihau’r perygl yn sylweddol i bobl ac eiddo.”

Mae’r app hefyd yn rhoi dolenni at fapiau, canllawiau a fideos a fydd yn helpu pobol i baratoi at argyfyngau posib yn ogystal â gwybodaeth am leoliadau defnyddiol yn y ddinas.

Mae’r app wedi ei greu a’i ddatblygu dros y 6 mis diwethaf gan Gyngor Caerdydd mewn partneriaeth gyda sefydliadau amrywiol fel Heddlu De Cymru, yr Uned Gwrth-frawychiaeth, Gwasanaeth Tân, Bws Caerdydd, Trenau Arriva Cymru ac eraill.

Mae modd dilyn Evac Caerdydd ar Twitter @evaccardiff a’r sianel YouTube, ‘EVACCardiff’.