Y diweddar Mark Mason (Llun: Heddlu Gogledd Cymru)
Mae dyn 20 oed o Lerpwl wedi’i gael yn euog o lofruddiaeth Mark Mason yn Y Rhyl ym mis Hydref y llynedd.

Fe ddaeth y dyfarniad yn Llys y Goron yr Wyddgrug heddiw. Roedd James Davies wedi gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn.

Roedd dau arall yn sefyll eu prawf hefyd – Anthony Baines, 30, a Mark Ennis, 30 – ond fe’u cafwyd nhw ill dau yn ddieuog o lofruddiaeth, ac yn euog o ddynladdiad.

Fe fydd y tri yn cael eu dedfrydu yn ddiweddarach, ynghyd â phedwerdydd dyn, Jake Melia, a oedd wedi cyfaddef i’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn o.