Rhodri Morgan (Zureks CCA 3.0)
Mae Aelodau’r Cynulliad wedi bod yn talu teyrnged i’r diweddar cyn-Brif Weinidog Rhodri Morgan yn siambr y Senedd heddiw.

Bu farw Rhodri Morgan, fu’n Brif Weinidog ar Gymru rhwng 2000 a 2009, yn sydyn ddydd Mercher diwethaf yn 77 oed.

Siaradodd Julie Morgan am y tro cyntaf am farwolaeth ei gwr gan nodi: “Mae colli Rhodri wedi bod yn ergyd ofnadwy i mi ac i’r teulu … cafodd e fywyd hyfryd ac mi wnaeth e fwynhau pob munud.”

Wedi iddo wneud datganiad am ymosodiad Manceinion nos Lun, dywedodd y Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones: “Roedd yn ennyn llawer o barch ond hefyd â’i draed ar y ddaear.”

Fe wnaeth Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, ei ddisgrifio fel “dyn y bobol,” a dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, ei fod yn “unigolyn ffein.”

Yn ystod araith emosiynol dywedodd AC y Democratiaid Rhyddfrydol, a’r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams, bod y cyn-Brif Weinidog “yn sefyll allan”, gyda’r Llywydd Elin Jones yn ategu: “Nawn ni fyth weld rhywun fel Rhodri Morgan eto.”

Mae’r Cynulliad  wedi cadarnhau y bydd angladd Rhodri Morgan yn cael ei chynnal yn y Senedd ar Fai 31 am 11yb.