Theresa May Llun: Jonathan Brady/PA Wire
Fe fyddai Llywodraeth Geidwadol yn ymgynghori ar osod uchafswm posib ar gostau gofal cymdeithasol, fe gyhoeddodd Theresa May heddiw.

Mae’r Prif Weinidog ar ymweliad a Chymru heddiw i lansio maniffesto’r Ceidwadwyr Cymreig.

Daw ei chyhoeddiad wrth i bolau piniwn awgrymu bod y bwlch rhwng cefnogaeth i’r Ceidwadwyr ac i’r Blaid Lafur yn agosáu yn sgil pryder y cyhoedd am gynlluniau maniffesto’r blaid sydd wedi cael eu galw’n “dreth dementia” gan y gwrthbleidiau.

Mae’n cael ei weld fel tro pedol gan y Ceidwadwyr ar ôl i gynlluniau dadleuol olygu y bydd yn rhaid i’r henoed, sy’n mynd i gartref gofal, dalu am hynny drwy werthu eu cartref os yw eu cyfoeth yn £100,000 neu’n fwy.

Roedd Theresa May wedi ceisio tawelu pryderon aelodau’r blaid y gallai’r cynlluniau gostio’r etholiad iddyn nhw.

Fe fydd papur gwyrdd ar iechyd a gofal cymdeithasol yn cael ei gyhoeddi dros yr haf os bydd y Torïaid yn dal i fod mewn grym ar ôl 8 Mehefin.

Dywedodd Theresa May y byddai’r ymgynghoriad yn cynnwys uchafswm ar y swm y byddai pobl yn gorfod talu am gostau gofal ond bod “y polisïau yn aros yn union yr un fath.”

“Peryglus”

Wrth siarad yn ystod ei ymgyrch yn Hull, dywedodd yr arweinydd Llafur Jeremy Corbyn y byddai tro pedol ar gynlluniau “peryglus iawn” i’w groesawu.

Dywedodd Norman Lamb ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol bod y tro pedol yn arwydd bod y blaid Geidwadol mewn “panig”.

Ac wrth drydar ei hymateb dywedodd arweinydd yr SNP yn yr Alban Nicola Sturgeon nad oedd y Prif Weinidog “mor gryf a sefydlog wedi’r cwbl… ac ni ellir ymddiried ynddi i ddiogelu pensiynwyr.”

A dywedodd llefarydd Ukip Patrick O’Flynn bod y polisi newydd yn “hollol annigonol.”