Theresa May (Llun o'i chyfri Twitter)
Mae disgwyl i Theresa May fod yng Nghymru heddiw i lansio maniffesto’r Ceidwadwyr Cymreig.

Mae’r blaid yn lansio eu cynllun gweithredu ar gyfer yr etholiad cyffredinol ar yr un diwrnod â lansiad Llafur Cymru.

Bydd Theresa May yn ceisio tawelu pryderon aelodau y gallai cynlluniau dadleuol y blaid i drawsnewid ariannu gofal cymdeithasol gostio’r etholiad iddyn nhw.

Mae disgwyl iddi geisio defnyddio’r digwyddiad yng ngogledd Cymru heddiw i dynnu’r sylw oddi ar y cynlluniau hynny ac yn ôl at Brexit.

Mae’r cynllun yn golygu y bydd yn rhaid i’r henoed, sy’n mynd i gartref gofal, dalu am hynny drwy werthu eu cartref os yw eu cyfoeth yn £100,000 neu’n fwy.

Mae gweinidogion yn ei Chabinet wedi dweud na fydd unrhyw droi nôl ar y cynllun ond y bydd papur gwyrdd ar iechyd a gofal cymdeithasol yn cael ei gyhoeddi dros yr haf os bydd y Torïaid yn dal i fod mewn grym ar ôl 8 Mehefin.

Ymgyrch yn erbyn

Fodd bynnag, mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Tim Farron, wedi addo ymgyrch genedlaethol yn erbyn yr hyn mae’n ei alw’n “dreth dementia”.

Bydd yn ceisio cael cefnogaeth y cyn-brif weinidog, David Cameron, sydd bellach yn llywydd yr elusen Ymchwil Alzheimer.

Mae’r arolygon barn dros y penwythnos yn dangos bod y bwlch rhwng cefnogaeth i’r Ceidwadwyr ac i’r Blaid Lafur yn agosáu.

Yn y cyfamser, mae arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, wedi lansio apêl funud olaf i geisio cael myfyrwyr i gofrestru i bleidleisio, gyda’r cyfnod i wneud hynny yn cau am 11:59 yr hwyr heno.