Mae Heddlu’r Gogledd wedi cyflwyno Gorchymyn Gwasgaru yng nghanol tref Llangefni wrth iddyn nhw fynd i’r afael ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol gan bobol ifanc yn yr ardal.

Daw’r Gorchymyn yn dilyn cyfres o gwynion am oedolion ifanc yn ymgasglu yng nghanol y dref, yn yfed alcohol ac yn achosi difrod troseddol.

Bydd y Gorchymyn mewn grym tan 1 o’r gloch fore Sul.

Mae’n golygu y bydd modd i’r heddlu fynd ag unrhyw un dan 16 oed adref neu i le diogel.

Bydd modd hefyd i unigolion gael eu gwahardd o ganol y dref am 24 awr, a bydd unrhyw un sy’n gwrthod cydymffurfio yn cael ei arestio.