Twnneli Brynglas (Llun: Llywodraeth Cymru)
Fe fydd twnneli Brynglas ar yr M4 ynghau rhwng heno a bore Llun.

Mae gwaith cynnal a chadw yn cael ei gwblhau fel rhan o gynllun uwchraddio fydd yn cael ei gwblhau erbyn mis Chwefror nesaf.

Bydd y ffordd ynghau o 8 o’r gloch heno tan 6 o’r gloch fore Llun, a bydd traffig yn symud ar hyd ar A48 am y tro, gyda ffyrdd eraill ar agor i drigolion lleol yn ardal Casnewydd.

Dim ond i gyfeiriad y dwyrain y bydd teithwyr yn cael eu heffeithio.