Mae dynes o Lanelwy sy’n dysgu Cymraeg wedi anfon cwyn at Gomisiynydd y Gymraeg ar ôl derbyn taflenni etholiadol uniaith Saesneg gan y Blaid Lafur a’r Ceidwadwyr.

Dywedodd Ann Jones wrth golwg360 ei bod hi wedi’i siomi ar ôl derbyn taflenni uniaith Saesneg gan James Davies o’r Ceidwadwyr sy’n dal sedd Dyffryn Clwyd ar hyn o bryd, ynghyd â’r ymgeisydd Llafur Chris Ruane fu’n cynrychioli’r etholaeth ers 1997 cyn colli’i afael arni ddwy flynedd yn ôl.

“Mi gollais i fy nhymer dipyn bach,” meddai Ann Jones gan esbonio iddi gysylltu â’r pleidiau ynghyd ag anfon cwyn at Gomisiynydd y Gymraeg.

Er hyn, dywedodd ei bod yn ansicr a fyddai’n cael ymateb am fod rhai o’r taflenni’n ymddangos yn daflenni cyffredinol ar gyfer holl wledydd Prydain.

“Ond i fi dyw hynna ddim yn bwysig, achos mae gyda ni’r hawl i dderbyn gohebiaeth ddwyieithog yng Nghymru,” meddai.

“I rywun fel fi sy’n dysgu Cymraeg, mae taflenni dwyieithog yn ddefnyddiol achos dw i’n gallu gwirio’r Gymraeg yn erbyn y cyfieithiad Saesneg ar ochr arall y daflen.”

Mae golwg360 wedi gofyn am sylwad i’r mater gan Gomisiynydd y Gymraeg.