Llys y Goron Manceinion, lle bydd y dedfrydu (llun y gwasanaeht llysoedd)
Mae dyn o Wrecsam yn wynebu carchar am droseddau brawychol, pan fydd yn ymddangos o flaen llys heddiw.

Roedd Aabid Ali, 49, o Barc Iâl, Wrecsam, wedi pledio’n euog i dri chyhuddiad ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Manceinion.

Roedd y gweithiwr casglu biniau – Darren Glennon oedd ei enw cyn troi at Islam – wedi cyfadde’ fod ganddo ddau ‘lawlyfr’ brawychol, ac un o’r rheiny wedi’i gyhoeddi gan y mudiad Al Qaida.

Roedd hefyd wedi cyfadde’ i roi neges ar y We yn annog pobol eraill i baratoi neu gyflawni gweithred frawychol.

Ers iddo bledio’n euog ddiwedd mis Mawrth, mae wedi cael ei gadw yng ngharchar Chelmsford.