Cor Forget Me Not, Caerdydd
Mae canolfan berfformio’r Chapter yng Nghaerdydd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ddydd Mercher (Mai 17) i godi ymwybyddiaeth am ddementia.

Fe fyddan nhw’n dangos rhaglen ddogfen am gôr o Gaerdydd – Forget Me Not – sy’n dod â phobol sy’n dioddef o ddementia ynghyd i ganu.

Cafodd y côr ei sefydlu yn 2012 a bellach mae ganddyn nhw bum côr yn ymarfer ledled y brifddinas.

Ac ychydig cyn y dangosiad o’r rhaglen heno, fe fydd aelodau’r côr yn ymuno ag Only Men Aloud i berfformio yng nghanolfan y Chapter.

Profiad ‘Realiti Rhithiwr’

Mae’r digwyddiadau’n rhan o ŵyl rhwng canolfan Chapter a Phrifysgol Caerdydd, sef Tinted Lens: Gŵyl y Cof, Cofio a Heneiddio.

Fe fyddan nhw’n cynnig profiad ‘Realiti Rhithiwr’ i bobol nad sy’n dioddef o ddementia iddyn nhw ddeall sut brofiad yw byw gyda’r cyflwr.

“Dw i wedi gweld sut y mae diagnosis o ddementia yn gallu ynysu pobol – y rheiny sy’n byw gyda dementia ynghyd â’u teuluoedd a’u ffrindiau,” meddai Ellie Russell ar ran Canolfan y Chapter.

“Dw i’n gobeithio y bydd y diwrnod yn codi ymwybyddiaeth o ddementia, a hefyd yn cynnig awyrgylch hamddenol, cefnogol a chynhwysol i bobol fel y gallant ddod at ei gilydd i fwynhau ffilmiau a gweithgareddau.”