Am y tro cyntaf erioed mae gŵyl wyddoniaeth ryngwladol yn ymweld â Chymru’r wythnos hon a bydd sesiynau trafod yn cael eu cynnal yn rhai o dafarnau’r brifddinas.

Rhwng heddiw a dydd Mercher (Mai 17), bydd 24 o wyddonwyr yn trafod eu gwaith dros beint yng Nghaerdydd – ymgais i bontio diddordeb y cyhoedd â’r arbenigwyr yn y maes.

Mae’n rhan  o ŵyl ‘Peint o Wyddoniaeth’ gafodd ei sefydlu pum mlynedd yn ôl ym Mhrydain, ond bellach mae’n cael ei gynnal mewn deuddeg o wledydd gwahanol a mwy na chant o ddinasoedd dros y tridiau nesaf.

Y tafarnau

Mae’r tafarnau sy’n rhan o’r ŵyl yng Nghaerdydd yn cynnwys O’Neills, The Old Market Tavern, The Little Man Coffee Co. a 10 Feet Tall.

Mi fydd arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd yn arwain sgyrsiau gan gynnwys yr Athro Paul Pearson fydd yn trafod cynhesu byd-eang, a Matt Smalley yn trafod ymchwil i driniaethau canser.

‘Ceisio gwahaniaeth’

Mae trefnwyr y digwyddiad yng Nghaerdydd wedi croesawu’r ŵyl gan ddweud ei fod yn “ganlyniad i ymdrech gan y myfyrwyr sy’n dangos mor falch ydyn ni o’r ymchwil rydyn ni’n ei wneud.

“Fel gwyddonwyr rydyn ni’n ceisio gwneud gwahaniaeth dros y byd ac yn ein hachos ni mae hynny’n dechrau gartref, yma yng Nghaerdydd,” meddai’r ddau, Emma Campbell ac Alex Baker.