Y gofrestr etholiadol
Mae miloedd o bobol yng Nghymru yn wynebu colli’r cyfle i bleidleisio yn yr etholiad cyffredinol, yn ôl ymgyrchwyr.

Yn ôl y Comisiwn Diwygio Etholiadol (ERS) mae 350,000 o bobol yng Nghymru heb gofrestru ar gyfer yr etholiadau.

Mae’n debyg mai myfyrwyr a phobol ifanc, pobol sy’n byw yn y sector rhentu preifat, pobol o grwpiau ethnig lleiafrifol a phobol o gefndiroedd incwm isel, sydd lleiaf tebygol o fod wedi cofrestru.

Rhwng 2013 a 2016 cwympodd nifer y bobol ifanc rhwng 16 a 17 oed wnaeth gofrestru i 27%. Bu cwymp o 64% yn ystod yr un cyfnod ym Mro Morgannwg.

“Ildio eich llais”

“Mae mwy i wleidyddiaeth na phleidleisio yn unig, ond mae methu a chofrestru yn golygu eich bod yn ildio eich llais yn ystod y cyfnod allweddol yma,” meddai Cyfarwyddwr ERS Cymru, Jess Blair.

“Bydd Cymru oll yn colli allan os fydd ein cynrychiolwyr yn cael eu dewis gan y lleisiau fwyaf swnllyd yn hytrach na’r wlad gyfan.”

Mae’n rhaid cofrestru erbyn Mai 22 er mwyn medru pleidleisio yn etholiad cyffredinol Mehefin 8 ac mae modd cofrestru fan hyn.