Tim Farron (llun Dem Rhydd)
Fe fyddai Cymru’n diodde’n ofnadwy petai’r Ceidwadwyr yn ennill mwyafrif mawr yn yr Etholiad Cyffredinol.

Dyna rybudd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Tim Farron, wrth iddo ymweld â Chymru ddoe, gan ddweud y byddai’r wlad wedyn yn cael ei “chymryd yn ganiataol”.

Ac fe adleisiodd araith enwog yr AS Llafur, Neil Kinnock, cyn buddugoliaeth Margaret Thatcher a’r Torïaid yn 1983.

“Meddyliwch beth fyddai hynny’n ei olygu i’ch plant chi, i’ch teuluoedd chi ac i’ch cymunedau chi wrth iddyn nhw gael eu cymryd yn ganiataol,” meddai.

‘Gweledigaeth wahanol’

Fe ddywedodd Tim Farron wrth Radio Wales ei fod yn cofio effaith debyg ar ei gymunedau ei hun yng ngogledd Lloegr wedi buddugoliaeth Mrs Thatcher.

Roedd yn mynnu mai dim ond y Democratiaid Rhyddfrydol oedd yn cynnig gweleidigaeth fwy gobeithiol na’r “weledigaeth lom” oedd yn cael ei chynnig gan arweinydd presennol y Ceidwadwyr, Theresa May.

Ac fe gyhuddodd Brif Weinidog Prydain o geisio “colbio” pobol i dderbyn y weledigaeth honno.

Yng Nghaerdydd yr oedd Tim Farron ddoe, lle mae ei blaid yn ceisio ennill un sedd yn ol – dim ond un sedd, Ceredigion, oedd yn eu dwylo wedi etholiad 2015.

  • Mewn araith yng Nghaerdydd adeg etholiad 1983, fe rybyuddiodd Neil Kinnock bobol i beidio â bod yn hen, yn ifanc, neu’n wael eu hiechyd os oedd llywodraeth Geidwadol yn dod i rym.