Tracey Kearns
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi arestio dyn 48 oed o Fae Cinmel ar amheuaeth o lofruddiaeth yn gysylltiedig â diflaniad Tracey Kearns.

Nid oes neb wedi gweld Tracey Kearns, 43, o Fae Cinmel, ers Mai 7.

Mae’r heddlu yn credu bod Tracey Kearns yn adnabod y dyn sydd wedi cael ei arestio, ac sydd bellach yn y ddalfa yn Llanelwy.

“Bydd yna fwy o bresenoldeb yr heddlu ym Mae Cinmel wrth i swyddogion ddilyn eu hymchwiliadau a dymunaf ddiolch i’r cyhoedd am eu cydweithrediad hyd yma,” meddai’r Uwch-arolygydd Sian Beck.

“Mae hwn yn amser anodd iawn i deulu Tracey, sy’n derbyn cefnogaeth swyddogion sydd weddi cael hyfforddiant arbenigol.”

Mae Tracey Kearns yn bum troedfedd a thair modfedd o daldra, gyda gwallt melynfrown i lawr at ei hysgwyddau. Mae’n siarad ag acen gogledd orllewin Lloegr.