Branwen Cennard
Mae gwraig sy’n gyfrifol am bortreadu bywyd gwleidyddion Bae Caerdydd mewn drama deledu, yn sefyll ei hun yn ymgeisydd am sedd y Rhondda yn San Steffan.

Yn dilyn cyfarfod dewis “bywiog” bythefnos yn ôl, mae Branwen Cennard wedi cael ei henwebu gan Blaid Cymru i gynrychioli’r etholaeth yn etholiad cyffredinol brys Mehefin 8.

Mae’n camu i frwydr yr oedd arweinydd Plaid Cymru wedi ystyried ei chymryd arni ei hun, ond dydi hynny ddim yn bwysau, meddai Branwen Cennard. Mae’n dweud fod Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru, yn cipio’r sedd yn y Cynulliad, wedi ei hysbrydoli.

“Mae Leanne Wood wrth gwrs yn ysbrydoliaeth,” meddai Branwen Cennard, “ac mae hi’n beiriant. Dw i’n rhyfeddu at ei dycnwch hi a’i hegni. Ac mae’r gefnogaeth mae hi’n rhoi i mi yn gwbwl allweddol.

“R’yn ni’n rhannu lot o’r un cefndir,” meddai wedyn. “Mae’r ddwy ohonon ni yn dod o’r Rhondda, wedi ein geni a’n magu yma. Mae’r ardal yn bwysig iawn i’r ddwy ohonon ni. Felly mae yna lot yn gyffredin…”

Merch ei thad

Mae Branwen Cennard yn ferch i Cennard Davies – un o hoelion wyth y blaid yn y Rhondda – a oedd yn asiant i Vic Davies yn ystod is-etholiad 1967 pan fu’r blaid bron â chipio sedd Gorllewin Rhondda.

Ac er bod Cennard Davies ei hun wedi ymddeol o fod yn gynghorydd ar Gyngor Rhondda Cynon Taf ac wedi ymuno â thîm ymgyrchu ei ferch – yn asiant iddi.

“Dw i wrth fy modd ei fod e’n asiant i mi ac ein bod ni’n gallu gwneud hyn gyda’n gilydd,” meddai Branwen Cennard wrth golwg360. “Dw i wrth fy modd i gael y cyfle annisgwyl yma – oherwydd mi roedd yr etholiad yn annisgwyl – i weithio llaw yn law â Dad.”

Pa obaith, mewn gwirionedd?

Mae Branwen Cennard yn cyfeirio at y ddau etholiad diwethaf ac at lwyddiant Plaid Cymru i greu “twll reit fawr” ym mwyafrif yr Aelod Seneddol Llafur, Chris Bryant, sydd wedi cynrychioli’r etholaeth ers 2001.

“Mae hynna yn amlwg yn galonogol,” meddai. “Mae’n awgrymu fod pobol wedi dadrithio. Mae’n awgrymu fod pobol eisiau newid.”

“Mae ’na deimlad mawr o fomentwm yn y Rhondda. Mae yna dîm gwych o weithwyr ar y llawr. Oedd canlyniadau etholiadau’r cyngor wythnos ddiwethaf yn tystio i’r gwaith caled sydd wedi digwydd.”

Canrif o Lafur

Mae Rhondda wedi ei chynrychioli gan aelod seneddol Llafur ers bron i gan mlynedd yn ddi-dor ond mae Branwen Cennard yn ffyddiog bod hyn yn mynd i fod o “help mawr” i’w hymgyrch.

“Wrth gwrs, mae’r hanes yna yn gwneud hi’n anodd iddyn nhw gynnig unrhyw beth newydd nawr. Os dydych chi ddim wedi llwyddo i weithredu ac ateb y galw mewn canrif mae’n anodd iawn gweld shwt ‘ych chi’n mynd i allu gwneud hynny bellach.”