Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn achos honedig o ’daro a ffoi’ lle cafodd bachgen 12 oed ei daro gan gar yng Nghasnewydd.
Cafodd y bachgen ei daro oddi ar ei feic ar Heol Conwy, Casnewydd am 5.55yh ddydd Sadwrn, Mai 6.
Yn ôl adroddiadau cafodd car Range Rover 2006 gwyrdd ei weld adeg y digwyddiad a chredir bod dwy ferch â gwallt golau yn y car.
Cafodd y bachgen i gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent ond nid oedd ei anafiadau yn rhai a oedd yn bygwth ei fywyd. Cafodd gleisiau ar ei goes ac anaf i’w ben.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 gan nodi’r cyfeirnod 445 06/05/17
.