Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones (Llun: Ben Birchall/PA Wire)
Fe fydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn amlinellu blaenoriaethau’r Blaid Lafur yng Nghymru ar gyfer yr etholiad cyffredinol heddiw.

Bydd eu maniffesto yn cael ei lansio yng Nghaerdydd ddydd Llun.

Addewidion

Mae disgwyl i’r maniffesto gynnwys pum prif addewid:

  • Gwarchod safonau byw a chreu gwell swyddi’n nes at adref – y bwriad yw cyflwyno Cyflog Byw o £10 yr awr a buddsoddi mewn is-adeiledd, sgiliau a thechnoleg newydd
  • Gwarchod y Gwasanaeth Iechyd a gofal cymdeithasol
  • Rhoi’r cyfle i bob plentyn gyflawni ym myd addysg – bydd hyn yn cynnwys gwarchod brecwast am ddim, a £100 miliwn yn cael ei fuddsoddi i wella safonau ysgolion
  • Mwy o blismyn mewn cymunedau – 853 ohonyn nhw ledled Cymru
  • 20,000 o dai fforddiadwy i’w rhentu a’u prynu

Wrth lansio’r maniffesto, bydd Carwyn Jones yn dweud: “Nid mater o arweinyddiaeth yn unig yw hun – ond mater o undod hefyd. Rydyn ni yn Llafur Cymru – yn gynghorwyr, yn ASau ac yn ACau – yn unedig, ac rydym yn gweithio gyda’n gilydd dros Gymru.

“Mae’r hyn y gall y blaid hon ei gyflawni mewn ymgyrchoedd – ac yn bwysicach, yn y Llywodraeth, yn ddi-ben-draw – pan ydyn ni’n sefyll gyda’n gilydd ac yn unedig.

“Dyna sy’n rhaid i ni ei wneud dros y bum wythnos nesaf. Does dim amser i orffwys, rhaid i ni fod allan ar stepen y drws a bod yn barod i weithio’n galetach, i wneud taflen ychwanegol, i wneud stryd ychwanegol.”

Record dda

Ychwanegodd fod gan Lafur Cymru record dda mewn etholiadau lleol.

“Ond os ydych chi’n credu y byddwn ni’n tynnu’n traed oddi ar y sbardun yn yr wythnosau i ddod, meddyliwch eto.”