Plaid Cymru sydd yn y sefyllfa orau i herio’r Ceidwadwyr yn yr etholiad cyffredinol yng Nghymru, yn ôl Leanne Wood.

Dywed arweinydd y blaid fod Llafur wedi’i hollti, a bod canlyniadau’r etholiadau lleol yr wythnos diwethaf yn dangos bod ei phlaid mewn sefyllfa gref ar drothwy’r etholiad cyffredinol ar Fehefin 8.

Enillodd y blaid 33 sedd ychwanegol ddydd Iau, bedair sedd yn brin o’u record.

Dywedodd Leanne Wood ei bod hi wrth ei bodd gyda’r canlyniadau.

“Llwyddodd ein pencampwyr cymunedol i dorri drwodd mewn ardaloedd newydd o’r wlad yn ogystal ag atal buddugoliaethau Torïaidd.”  

Doedd perfformiad y Ceidwadwyr ddim cystal yng Nghymru ag yn Lloegr – 15% o holl seddi Cymru a gafodd eu hennill gan y Ceidwadwyr; fe enillon nhw 65% o seddi  Lloegr.

Yng Nghymru, mae gan Blaid Cymru 202 o seddi tra bod gan y Ceidwadwyr 184 ond fe lwyddodd Llafur i gadw gafael ar gynghorau’r dinasoedd mawr ac osgoi’r chwalfa yr oedd rhai wedi’i darogan.

‘Llafur yn aneffeithiol’

Ychwanegodd Leanne Wood: “Gyda Llafur yn methu cynnig gwrthblaid gadarn oherwydd eu rhaniadau dwfn, mae Plaid Cymru mewn sefyllfa gref i gael aelodau seneddol yn San Steffan er mwyn sefyll i fyny i agenda ddinistriol y Ceidwadwyr ac i amddiffyn Cymru.”

Ychwanegodd fod y Ceidwadwyr yn peri perygl i economi, gwasanaethau cyhoeddus a statws Cymru fel cenedl, ac y bydd agwedd Prif Weinidog Prydain, Theresa May at Brexit yn “peryglu swyddi Cymreig a chytundebau masnach ar yr un pryd”.

“Gyda Llafur wedi’i hollti cymaint, a’r Torïaid yn benderfynol o beryglu miloedd o swyddi Cymreig a’n gwasanaeth iechyd, dim ond Plaid Cymru sydd mewn sefyllfa i anfon aelodau seneddol i San Steffan i amddiffyn Cymru.”