Gwyl 2016 (Llun oddi ar wefan gwylfwydcaernarfon.cymru)
Mae cwmni niwclear Horizon yn noddi Gwyl Fwyd Caernarfon eleni, ac mae un o’r prif drefnwyr yn cydnabod fod hynny wedi “hollti barn” y pwyllgor.

Mae llefarydd ar ran y cwmni sy’n awyddus i godi ail atomfa niwclear ar safle’r Wylfa ym Mon wedi cadarnhau wrth golwg360 eu bod yn rhoi £2,000 at yr wyl yn nhre’r Cofis eleni.

Ac mae Nici Beech wedi cyfaddef bod y bleidlais i dderbyn neu wrthod y nawdd wedi bod yn “agos”.

“Mi wnaethon ni ystyried o yn ddwys, cynnal cwpwl o gyfarfodydd i drafod a phenderfynu os oedden ni’n mynd i dderbyn,” meddai Nici Beech wrth golwg360.

“Mi wnaethon ni bleidleisio, ac roedd y mwyafrif o blaid derbyn y pres, jyst am y pres. Roedd rhai o blaid ynni niwclear, yn meddwl bod o’n beth gwyrdd, a rhai pobol yn erbyn.”

Horizon yn rhoi £2,000

Bydd Horizon yn rhoi £2,000 i’r ŵyl, ond ni fydd gan y cwmni bresenoldeb yn yr wyl ar ail benwythnos mis Mai. Mae hynny oherwydd nad oes ganddyn nhw ddigon o staff i gynnal stondin.

“Rydan ni’n noddi nifer o wyliau, rydan ni wedi bod yn noddi Gŵyl Fwyd Menai ers dwy flynedd,” meddai llefarydd ar ran Horizon wrth golwg36o. “Dydi’r wyl honno ddim yn digwydd y flwyddyn yma.

“Rydan ni wedi bod yn noddwyr Gwyl Gopr Amlwch yn y gorffennol hefyd… yn anffodus dydi honno ddim yn digwydd y flwyddyn yma chwaith.

“Mae o jyst yn rhywbeth rydan ni’n ei wneud fel rhan naturiol o fusnes o ddydd i ddydd, fel buasai unrhyw gwmni mawr arall yn ei wneud.”

Awyddus i gadw’r digwyddiad am ddim

Dyma’r ail dro i Ŵyl Fwyd Caernarfon gael ei chynnal, ac mae Nici Beech yn dweud ei bod wedi cael mwy o grantiau y llynedd am ei bod yn digwydd am y tro cyntaf.

Cyngor Tref Caernarfon yw noddwyr mwyaf yr ŵyl, ac mae’n cyfrannu £4,000.

Mae’r trefnwyr yn awyddus i gadw mynediad i’r ŵyl am ddim, ac yn dweud mai dyna un o’r rhesymau dros dderbyn y nawdd gan gwmni Horizon.