Mae’r loteri genedlaethol wedi cadarnhau y bydd prosiect yr Archif Ddarlledu Genedlaethol yn derbyn £5 miliwn.

Bydd y prosiect yn cael ei sefydlu ar y cyd rhwng Llyfrgell Genedlaethol Cymru a BBC Cymru ac yn darparu mynediad cyhoeddus i archif BBC Cymru.

Mae tua 160,000 o eitemau sy’n dyddio nôl i’r 1930au yn yr archif ac mi fydd wedi ei leoli mewn pedwar canolfan ddigidol yn Aberystwyth, Wrecsam, Caerfyrddin a Chaerdydd.

Mae’r archif yn cynnwys deunydd o’r Ail Ryfel Byd,  streic y glowyr a’r brwydrau dros ddatganoli ac mi fydd mil o glipiau rhaglenni ar gael ar-lein ar gyfer defnydd cymunedol.

Bydd y prosiect yn costio £9 miliwn ac mae disgwyl y bydd y Llyfrgell Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a’r BBC yn cyfrannu arian.

“I Bobol Cymru”

“Mae’r argaeledd yna yn ddigidol yn ddibynnol ar y bartneriaeth rhwng y llyfrgell a’r BBC,” meddai Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol, Rhodri Glyn Thomas wrth golwg360.

“Y peth pwysig am yr holl beth yw pe na bai’r llyfrgell wedi dod i gytundeb am yr holl beth gyda’r BBC i gartrefu’r archif ac i fod yn gyfrifol amdano fe, bydde fe wedi cael ei golli o ran rhywbeth sydd ar gael i bobol Cymru.”