Un o'r protestwyr wedi clymu ei hun wrth beiriant tyllu am lo yn Ffos-y-fran ddoe (llun o wefan Reclaim the Power)
Llwyddodd pump o brotestwyr amgylcheddol i rwystro gwaith yn safle glo brig mwyaf Prydain, Ffos-y-fran ger Merthyr Tudful, am ddeg awr ddoe.

Mae aelodau’r mudiadau ‘Reclaim the Power’ ac ‘Earth First’ yn pryderu am lygredd o’r safle, ac wedi bod yn cefnogi galwad y Cenhedloedd Unedig am ymchwiliad i achosion o ganser ac asthma plant ymhlith pobl sy’n byw gerllaw’r safle.

Roedd eu protest ddoe yn cydamseru â chyhoeddiad y Grid Cenedlaethol fod trydan wedi cael ei gynhyrchu am ddiwrnod cyfan heb ddefnyddio glo am y tro cyntaf ym Mhrydain ers dyddiau oes Victoria.

Mae’r protestwyr yn pryderu hefyd am y llygredd o orsaf bwer Aberddawan, sy’n defnyddio’r rhan fwyaf o’r glo a gaiff ei fewnforio yn Ffos-y-fran.

Meddai Andrea Brook, un o’r protestwyr:

“Ar y diwrnod cyntaf ers y chwyldro diwydiannol pan na chafodd dim o ynni’r Deyrnas Unedig ei gynhyrchu o lo, fe wnes i chwarae rhan mewn cau Ffos-y-fran oherwydd nad yw llywodraethau’n ymateb i effaith newid yn yr hinsawdd a llygredd aer.

“Mae angen inni gau pob gorsaf bwer glo ar fyrder a’r safleoedd glo brig sy’n eu cyflenwi.”