Mark Fletcher (Llun Heddlu'r De)
Mae pedoffeil o Gaerdydd wedi ei ddedfrydu i garchar am geisio meithrin plentyn ar gyfer dibenion rhywiol.

Cafodd Mark Fletcher, 32, o’r Rhath ei arestio wrth gyrraedd Birmingham lle’r oedd wedi trefnu cwrdd â merch 14 blwydd oed yr oedd wedi ei hudo trwy gyfryngau cymdeithasol.

Am gyfnod o dair wythnos roedd y troseddwr yn credu ei fod wedi bod yn cyfathrebu â’r ferch – ond heb yn wybod iddo bu’n cysylltu â swyddogion yr heddlu.

Roedd mam y ferch wedi cysylltu â’r heddlu pan ddechreuodd amau bod ei merch yn cyfathrebu â dyn dieithr ar y We trwy wefan Trydar.

Pan gafodd ei arestio a’i gludo i’r ddalfa roedd gan Mark Fletcher gondomau, dillad isaf i fenywod a dillad i ferched yn ei feddiant.

Cafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd i garchar am 42 mis wedi iddo bledio’n euog i droseddau meithrin ar gyfer dibenion rhyw ac am annog plentyn i gyflawni gweithred rywiol.