Ar gyfartaledd mae prynwyr yn cymryd 27 munud i benderfynu prynu cartref, yn ôl gwaith ymchwil gan y wefan eiddo Zoopla.

Ond fe ddywedodd 24% o’r perchnogion cartrefi gafodd eu holi, eu bod wedi cymryd llai na 10 munud i benderfynu prynu eu heiddo.

Yn ôl yr ymchwil roedd pobol wedi cymryd mwy o amser i ystyried prynu ffôn clyfar neu dablet nag oedden nhw i brynu cartref.

Ar gyfartaledd roedd pendroni prynu ffôn clyfar (smartphone) yn cymryd 46 munud, a phrynu tabled yn cymryd 36 munud.

Mae yn debyg bod pobol wedi gwneud eu gwaith cartref cyn prynu cartref, a dyna pam bod y broses o brynu yn gyflymach ân phrynu ffôn clyfar neu dablet.

Yn ôl llefarydd Zoopla “mae’r broses o brynu cartref yn emosiynol iawn” a bod angen i brynwyr wneud eu gwaith cartref.