Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi derbyn bron i 300 cwyn am les cleifion â phroblemau iechyd meddwl ers 2013, yn ôl cais rhyddid gwybodaeth.

Ers i Lywodraeth Cymru ddechrau rheoli’r bwrdd iechyd yn 2013, mae 294 cwyn wedi’u derbyn – ac mae 40 ohonyn nhw yn gysylltiedig ag ymddygiad ymosodol a difrïol.

Yn ystod 2015 fe dderbyniodd y bwrdd Iechyd 115 o gwynion yn gysylltiedig â gofal iechyd meddwl dros gyfnod o ddeuddeg mis.

Ym mis Mai 2015 fe gyhoeddodd yr Arbenigwr Iechyd annibynnol Donna Ockenden adroddiad oedd yn honni bod cleifion wardiau iechyd meddwl Betsi Cadwaladr yn wynebu “camdriniaeth sefydliadol” gan staff.

Mesurau arbennig

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mae’r bwrdd yn anelu i ddelio â phob cwyn yn gyflym ac mewn ffordd briodol ac maen nhw’n annog pobol i godi pryderon fel eu bod yn medru gwella ansawdd y gofal.

“Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn anelu i wella’r gwasanaeth iechyd meddwl fel rhan o gynllun mesurau arbennig ac mae’r gwaith yma wedi cynyddu ers apwyntiad cyfarwyddwr iechyd meddwl ym mis Mehefin,” meddai.

“Dylwn nodi bod gwybodaeth cais rhyddid gwybodaeth yn ymdrin ag ystod eang o faterion gan gynnwys trefniadau derbyniad ac ansawdd amgylchedd y ward yn ogystal ag ymddygiad ymosodol ar y ward.”

Angen adolygu

“Am gyfnod rhy hir mae cyflwr y gwasanaeth heb wella, ac mewn rhai achosion mae wedi gwaethygu. Nid oes modd bod yn fodlonus wrth ymdrin ag iechyd meddwl,” meddai Ysgrifennydd Iechyd Cysgodol y Blaid Geidwadol, Angela Burns.

“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru frysio i adolygu eu dull o ddelio â mater sydd yn effeithio aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am ymateb.