Y Gwir Barchedig John Davies (Llun: yr Eglwys yng Nghymru)
“Bywyd a gobaith” yw neges Pasg prif esgob Cymru, y Gwir Barchedig John Davies, Esgob Aberhonddu.

Mae’n arwain gwasanaeth yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu y bore ma.

Dywedodd fod “pob math o erchyllterau” yn “difetha bywydau”.

Dywedodd fod “ideoleg farbaraidd” yn gyfrifol am gyflafan yn yr Aifft.

‘Cost fawr i Gristnogaeth’

Dywedodd fod y fath erchylltra’n dod “ar gost fawr” i Gristnogion mewn rhai rhannau o’r byd.

Galwodd am roi cymorth i bobol “mewn angen ar unwaith”, gan ychwanegu bod dysgeidiaeth yr Iesu’n “nobl”.

“Felly pan welwn ni gariad a gobeithion pobol eraill am y dyfodol yn cael eu chwalu, pan glywn ni gri o lawenydd yn newid i lefain mewn gofid, pan welwn ni ddelweddau o gyrff yn cael eu rhwygo gan fomio di-drugaredd a phan geisiwn ni ddeall rhywbeth am y catalog brawychus o anghenion dynol ar draws y byd, rhaid i ni fod yn fwy na wedi’n cywilyddio.

“Rhaid i ni gael ein gyrru i fod yn rhan o’r ateb i weddïau sy’n cael eu gwneud er mwyn i ffordd well o fyw ddod yn real.”