Mae Heddlu Gwent wedi enwi dyn y cafwyd hyd i’w gorff yn afon Wysg fore Iau.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am oddeutu 10.30yb yn dilyn adroddiadau bod corff yn yr afon ger Pont Tref Caerllion.
Daeth cadarnhad y bore ma mai corff Zafar Abbas oedd e.
Dydy ei farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus.