Yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething (llun o wefan y Cynulliad)
Mae Llywodraeth Cymru’n addo na fydd yn rhaid aros cyhyd am lawdriniaethau arbenigol i leihau byddardod mewn oedolion.

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething fod y targed ar gyfer yr amser aros am fewnblaniad yn y cochlea yn cael ei haneru i 26 wythnos mewn achosion arferol a 36 wythnos mewn achosion cymhleth.

Mae’r targed newydd yn cysoni’r amser aros i oedolion â’r hyn yw i blant.

Dyfais feddygol yw mewnblaniad yn y cochlea sy’n galluogi pobl sy’n hollol fyddar i glywed eto, ac mae’r driniaeth arbenigol yn cael ei gwneud yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd ac Ysbyty Glan Clwyd.

“Rydym am sicrhau bod pobl sydd angen mewnblaniad yn y cochlea yn gallu cael y llawdriniaeth cyn gynted â phosibl er mwyn gwella neu adfer eu clyw,” meddai Vaughan Gething.

“Bydd hyn yn eu helpu i fyw bywydau arferol unwaith yn rhagor.”