Llys Biwmares (Llun: Cyngor Môn)
Mae grŵp o gynrychiolwyr mudiad cadwraeth o Iwerddon wedi ymweld â gogledd orllewin Cymru er mwyn dysgu am ddulliau o adfywio cymunedau a diogelu treftadaeth ddiwylliannol.

Yn ystod eu taith ddeuddydd, bu cynrychiolwyr cymdeithas Rhwydwaith Trefi Caerog Gwyddelig yn ymweld â Biwmares, Caernarfon, Blaenau Ffestiniog a Chonwy.

Wrth deithio o dref i dref bu cynrychiolwyr cymunedau lleol a mentrau cymdeithasol yn sôn am y ffyrdd gorau o ddiogelu cymeriad lle a sut i ddefnyddio’r celfyddydau i adfywio cymunedau.

Daeth diwrnod olaf yr ymweliad i ben gyda seminar yn Galeri, Caernarfon lle cafodd dulliau cadwraeth wahanol yng Nghymru ac Iwerddon eu trafod.

“Dysgu oddi wrth ein gilydd”

“Mae pawb yn gwybod bod gan Gymru ac Iwerddon dreftadaeth ddiwylliannol o safon fyd-eang,” meddai Liam Mannix, cydlynydd cymdeithas y Rhwydwaith Trefi Caerog Gwyddelig.

“Mae’r ymweliad hwn yn golygu gwneud y gorau o’r hyn sydd gan y ddwy wlad i’w gynnig a sut y gallwn ddysgu oddi wrth ein gilydd.”