Llandudno (Llun: Nigel Swales CCA 2.0)
Mae gwefan newydd sy’n tywys ymwelwyr ar daith ryngweithiol drwy atyniadau Cymreig, wedi ei lawnsio gan asiantaeth Llenyddiaeth Cymru.

Wrth ymweld â nifer o atyniadau ar draws Cymru, bydd modd defnyddio gwefan ‘Gwlad y Chwedlau’ i glywed straeon sydd yn gysylltiedig â’r llefydd dan sylw.

Ymhlith y cannoedd o atyniadau llenyddol sydd wedi’u rhoi ar fap y wefan, mae llwybr ‘Alice in Wonderland’ yn Llandudno a hanesion fampiriaid Llanilltud Fawr.

Mae hefyd yn cynnwys y chwedlau mawr Cymraeg a manylion am ddigwyddiadau hanesyddol a llenorion, gan eu cysylltu gyda mannau perthnasol.

Dylunydd y Super Furries

Cafodd y wefan ei datblygu drwy bartneriaeth rhwng Ymddiriedolaeth Cymru, Amgueddfa Cymru ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru, a chafodd ei chefnogi gan Gronfa Arloesi Cynnyrch Croeso Cymru.

Yr Arlunydd Pete Fowler – sy’n adnabyddus am ei waith dylunio i’r Super Furry Animals – sydd yn gyfrifol am greu’r darluniau sydd yn cyd-fynd â themâu a mapiau’r wefan.

Mae’r wybodaeth yn cynnwys deunydd ysgrifenedig, lluniau, sain a fideo.

 “Trysorau Cymru”

“Bydd yr adnodd newydd hwn yn caniatáu i unrhyw un sy’n ymweld â Chymru ddilyn eu llwybr llenyddol eu hunain a darganfod rhywbeth newydd am ein gwlad,” meddai Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, Lleucu Siencyn.

“Bydd y prosiect newydd hwn yn ein cyflwyno i’r hyn sydd eisoes yn fyd-enwog yn ogystal â rhai o drysorau a chysylltiadau llenyddol llai cyfarwydd Cymru.”