Courtney Norris (Llun: Heddlu Dyfed Powys)
Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth am ferch 16 oed o Hendy-gwyn ar Daf sydd ar goll.

Cafodd Courtney Norris ei gweld y tro diwethaf yng ngorsaf drenau Hendy-gwyn ar Daf rhwng 9.30yb a 10.00yb, a’r fore ddydd Sadwrn, 8 Ebrill.

Roedd disgwyl iddi ddychwelyd adref yn y prynhawn.

Mae Courtney Norris yn bum troedfedd o daldra gyda gwallt hir, brown ac mae’r heddlu yn credu ei bod yn gwisgo jîns gwyn a thop lliw hufen a du.

Nid yw’n glir lle’r oedd hi wedi teithio, a gall fod wedi teithio i gyfeiriad  Sir Gaerfyrddin neu Sir Benfro gan fod ganddi gysylltiadau â’r ddwy ardal.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Dyfed Powys ar 101.