Un o dwneli'r A55 yn y gogledd (llun: Wikipedia)
Mae ffordd ddeuol yr A55 rhwng Bangor a Chaer yn debygol o fod ymysg y lleoedd gwaethaf ym Mhrydain am dagfeydd traffig dros y Pasg.
Daw hyn i’r amlwg mewn arolwg gan y gymdeithas foduro RAC sy’n rhagweld y bydd cyfanswm o 12.8 miliwn o deithiau hamdden yn digwydd dros bedwar diwrnod y penwythnos nesaf ym Mhrydain.
Ymysg y lleoedd eraill sy’n debygol o fod yn brysur mae’r M5 o Fryste i Taunton a’r M55 rhwng Preston a Blackpool.
“Y Pasg yw’r cyfle cyntaf am wyliau i lawer o bobl,” meddai Rod Dennis, llefarydd traffig yr RAC.
“Gyda llawer o ysgolion eisoes wedi torri, rydym yn disgwyl miliynau o deuluoedd i fanteisio i’r eithaf ar y penwythnos hir a neidio i’r car.
“Mae llawer o draffig yn debygol ddydd Sul y Pasg yn enwedig, wrth i deuluoedd ddychwelyd adref.”
Eryri’n barod am y tymor
Yn y cyfamser, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wrthi’n cwblhau paratoadau ar gyfer y tymor gwyliau.
Mae 85,000 o gopïau o rifyn eleni o Eryri, papur newydd y Parc Cenedlaethol, wrthi’n cael ei ddosbarthu, ac mae tair canolfan groeso’r Awdurod bellach yn agored yn Aberdyfi, Beddgelert a Betws-y-coed.
Mae Gerddi ac Ystafell De Plas Tan y Bwlch, Maentwrog, wedi ail-agor i’r cyhoedd, a hefyd y caffi ym Mhen-y-Pass ar ben Bwlch Llanberis.