Fe fydd Cynhadledd Seneddwragedd y Gymanwlad, Rhanbarth Ynysoedd Prydain a Môr y Canoldir yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd heddiw ac yfory.

Mae disgwyl 25 o gynrychiolwyr o’r holl bleidiau ar y sbectrwm gwleidyddol yn mynychu o Gyprus, Gibraltar, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, Malta, Gogledd Iwerddon, yr Alban a San Steffan.

Bydd yn gyfle i rannu arfer gorau a phrofiad rhwng cyrff deddfu, gan anelu i weithio tuag at gynrychiolaeth well a mwy cynhwysol mewn bywyd cyhoeddus.

Thema’r gynhadledd yw ‘Menywod yn yr Economi’, a bydd sgyrsiau ar y pwnc yn cynnwys rôl llywodraeth wrth hyrwyddo menywod yn yr economi, amrywiaeth menywod yn yr economi a menywod mewn adeiladu.

Ymhlith y cyrff neu gwmnïau fydd yn rhoi cyflwyniadau mae Chwarae Teg, Canolfan Entrepreneuriaeth Menywod ym Mhrifysgol De Cymru, Spectrum Collections a Fabulous Welshcakes.

‘Cydraddoldeb yn anghyson’

Dywedodd cadeirydd y gynhadledd, yr Aelod Cynulliad Joyce Watson fod y gynhadledd yn cynnig “cyfle amserol i drafod sut y gall menywod chwarae rhan lawn a chyfartal yn economïau unigol eu cenhedloedd ac yn yr economi ar y cyd”.

Ychwanegodd fod cynnydd yn cael ei wneud yng ngwledydd Prydain, ond fod “cydraddoldeb yn parhau i fod yn anghyson” a bod canfyddiadau traddodiadol o rywedd “yn parhau i gael dylanwad ac i amharu ar benderfyniadau proffesiynol, cyfleoedd a chynnydd menywod”.

“Mae cost ariannol y dangynrychiolaeth hon yn enfawr (canfu adroddiad diweddar y gallai cau’r bwlch rhwng dynion a menywod ychwanegu £150 biliwn at economi’r Deyrnas Unedig (erbyn 2025), ac mae’n cael effaith gysylltiedig ar gymdeithas.

“Felly, wrth i ni ddod at ein gilydd yng Nghaerdydd, y nod yw cydweithio, herio ac ysbrydoli newid – i nodi’r rhwystrau sy’n atal menywod rhag cyrraedd eu potensial, nodi bylchau posibl mewn polisi a strategaeth a rhannu arfer gorau.”