Mae un o gynghorydd sir Gwynedd wedi ei syfrdanu gan reolau “gwirion” archfarchnad yng Nghaernarfon wnaeth ei rwystro rhag prynu dros gant o wyau Pasg i blant ysgolion lleol.

Pob blwyddyn ers 2010, mae Aeron Jones, sy’n cynrychioli ward Llanwnda ger Caernarfon yn enw Llais Gwynedd, yn prynu wyau Pasg i’w rhoi am ddim i blant ysgolion cynradd ei ward er mwyn lledu neges o “gydraddoldeb”.

Fel arfer mae’n prynu rhwng 160 a 180 o wyau i blant Ysgol Rhosgadfan, Ysgol Rhostryfan ac Ysgol Felinwnda… ond eleni, roedd y traddodiad bron â dod i ben oherwydd polisi cwmni Morrisons.

“Dim sens”

“Dywedodd y ddynes tu ôl y til mai ond wyth o’n i’n cael eu prynu ar y tro,” meddai Aeron Jones wrth golwg360. “Wnes i esbonio beth oeddwn i’n gwneud ac mai dim eu prynu nhw er mwyn eu gwerthu ymlaen o’n i.

“Yna, mi siaradais ag un o’r rheolwyr a dywedodd byddai’n rhaid i mi brynu’r wyau, wyth ar y tro! Wnes i weithio allan y byddwn wedi gorfod gwneud hynna 21 o weithiau. Dydi o’n yn gwneud sens!

“Be sy’n wirion,” meddai Aeron Jones wedyn, “ydi bod y bocsys ar y silffoedd yn yr archfarchnad yn dal naw o wyau… sy’n golygu baswn i wedi gorfod tynnu un wy o bob bocs er mwyn eu prynu!”

Prinder wyau

Yn dilyn yr helynt penderfynodd Aeron Jones i fynd i archfarchnad Tesco yng Nghaernarfon, lle lwyddodd i brynu 165 o wyau ar yr un pryd heb unrhyw drafferth.

Mae Aeron Jones wedi bod yn prynu’r wyau heb drwbwl o’r un archfarchnad ers saith mlynedd, a dywedodd mai’r esgus oedd gan Morrisons eleni oedd bod “prinder wyau Pasg” er mae’n debyg bod “cannoedd” ar y silfoedd.