Yr heddlu wedi dod o hyd i ganabis ar ddau safle yn ardal Merthyr Tudful (Llun: Heddlu De Cymru)
Mae Heddlu’r De wedi cadarnhau eu bod wedi dod o hyd i ganabis ar ddau safle yn ardal Merthyr Tudful.

Cafodd yr heddlu warant i archwilio dau safle, ac mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth  o fod â’r cyffuriau yn ei feddiant gyda’r bwriad o gyflenwi, ac mae dau arall wedi cael eu harestio ynghynt.

“Byddwn yn parhau i weithio gyda’n cymunedau i geisio lleihau gweithgarwch yn ymwneud â chyffuriau ym Merthyr Tudful,” meddai Arolygydd Heddlu’r De, Mark Simmonds.

Mae’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Daclo’r Taclau ar 0800 555 111.