Henry Ayabowei (Llun: Heddlu Gogledd Cymru)
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cael amser ychwanegol i holi dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn digwyddiad tu allan i glwb nos ym Mangor yn oriau man bore Sadwrn.
Bu farw Henry Ayabowei, 27, yn dilyn ymosodiad tu allan i glwb nos Peep tua 2yb fore Sadwrn, 1 Ebrill.
Daeth yr heddlu o hyd iddo’n anymwybodol ar y safle a chafodd ei gludo i’r ysbyty ond bu farw’n ddiweddarach. Fe fydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal heddiw.
Cafodd dyn 26 oed ei arestio ar amheuaeth o lofruddio yn dilyn yr ymosodiad.
“Cymorth sylweddol”
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Brian Kearney eu bod yn parhau i ymchwilio i’r digwyddiad a’u bod yn “gwerthfawrogi’r cymorth sylweddol gan y cyhoedd yn dilyn marwolaeth drasig Henry.”
Fe wnaed cais am amser ychwanegol i holi’r dyn ar ddydd Llun, 3 Ebrill yn Llys Ynadon Caernarfon a bydd gan yr heddlu hyd at 10yh nos Fawrth, 4 Ebrill i’w holi.