Mae wedi dod i’r amlwg bod Heddlu Gogledd Cymru wedi gorfod talu bil gwerth £44,500 ar gyfer ffôn symudol yr oedden nhw wedi ei roi i leidr oedd ar fechnïaeth.

Gwnaeth Heddlu’r Gogledd sylwi ar y broblem yn 2014 pan ddaeth i’r amlwg eu bod wedi rhoi ffôn symudol ar gytundeb i’r unigolyn o Ynys Môn yn hytrach na ffôn ‘talu wrth ei ddefnyddio’ – ‘pay as you go’.

Daeth y stori i’r amlwg yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth gan bapur y Daily Post.

Cafodd ymchwiliad ei gynnal ond penderfynodd Heddlu Gogledd Cymru beidio â mynd â’r achos i’r llys ac ni fydd camau disgyblu yn erbyn aelodau o staff.

O bryd i’w gilydd mae heddlu yn rhoi ffônau rhad i droseddwyr a dioddefwyr trosedd, er mwyn cadw mewn cysylltiad â nhw ac er mwyn eu helpu i integreiddio yn ôl i’w cymunedau.

Gwella trefnau diogelwch

“Mae ffôn yn galluogi troseddwyr ac awdurdodau cynorthwyol i gyfathrebu, er mwyn eu hannog i beidio â throseddu er budd y gymuned gyfan,” meddai Cyfarwyddwr Adnoddau a Chyllid Heddlu Gogledd Cymru, Tracey Martin.

“Yn anffodus ar yr achlysur yma cafodd ffôn gytundeb ei roi drwy gamgymeriad, a chafodd ei gamddefnyddio. Gwnaethom ddelio â’r sefyllfa pan ddaeth i’r amlwg yn 2014 ac ers hynny rydym wedi gwella trefniadau diogelwch fel nad yw hyn yn digwydd eto.”