Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cadarnhau y bydd ward orthopedig Ysbyty Gwynedd yn dychwelyd i’w threfn arferol erbyn diwedd y mis – a hynny ers i holl lawdriniaethau cluniau a phengliniau gael eu canslo dros fisoedd y gaeaf.

Mae golwg360 yn deall na chafodd yr un llawdriniaeth clun na phenglin newydd ei chynnal ar Ward Enlli ers y Nadolig – ac eithrio achosion brys – am fod gwelyau’r ward yn cael eu defnyddio ar gyfer cleifion o adrannau eraill yn ystod “pwysau’r gaeaf”.

Ond, mae’r Bwrdd Iechyd wedi cadarnhau heddiw nad oes “dim cynlluniau i gau Ward Enlli” ac y bydd llawdriniaethau yn cael eu cynnal eto yn fuan.

Mae’r Bwrdd wedi cadarnhau hefyd bod disgwyl y bydd y ward yn dychwelyd i’w threfn arferol “erbyn diwedd y mis.”

‘Pwysau’r gaeaf’

Dywedodd llefarydd ar ran y Bwrdd Iechyd: “Fel rhan o’n cynlluniau ar gyfer pwysau’r gaeaf, cafodd lleoedd gwelyau ar Ward Enlli eu defnyddio dros dro ar gyfer cleifion ers mis Rhagfyr.

“Fe wnaeth cleifion orthopedig ddychwelyd i’r ward tair wythnos yn ôl, ac rydym yn disgwyl i’r ward ddychwelyd i’w threfn arferol erbyn diwedd y mis.”