Mae llanc 17 oed wedi cael ei arestio ar ôl ymosod â chyllell ar ddau ddyn yng Nghaerdydd.

Cafodd y ddau anafiadau difrifol, ac mae un ohonyn nhw’n parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Mae’r llall bellach wedi cael mynd adref.

Cafodd yr heddlu eu galw i Stryd Tudor yn y brifddinas toc cyn 7 o’r gloch nos Wener.

Daethon nhw o hyd i’r ddau ddyn, a gafodd eu cludo i’r ysbyty.

Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth.