Mae dyn mewn cyflwr difrifol yn dilyn ymosodiad y tu allan i glwb nos ym Mangor yn oriau man y bore ma.
Cafodd yr heddlu eu galw i’r digwyddiad ger clwb nos Peep toc cyn 2 o’r gloch.
Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Gwynedd, ac mae e’n dal yn anymwybodol.
Mae dyn 26 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod, ac mae e yn y ddalfa yng Nghaernarfon.