Mae dau ddyn wedi cael anafiadau difrifol yn dilyn ymosodiad yng Nghaerdydd.

Cafodd yr heddlu – gan gynnwys heddlu arfog – eu galw i Stryd Tudor toc cyn 7 o’r gloch neithiwr.

Cafodd y ddau ddyn eu cludo i’r ysbyty ag anafiadau sylweddol.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101.