Mae deffro i haid o adar pinc plastic mewn gerddi, busnesau a chartrefi yn olygfa eithaf cyfarwydd i bobol ar draws Ceredigion erbyn hyn.

Mae’r ymgyrch ‘Ar Dramp dros Driniaeth’ wedi’i threfnu gan griw o ferched sy’n ceisio codi arian at Uned Cemotherapi Ysbyty Bronglais, Aberystwyth ac fe fyddan nhw’n cynnal digwyddiad mawr i godi arian nos yfory.

Y bwriad yw annog pobol i gyfrannu at yr elusen – os yw’r fflamingos plastig pinc yn ‘glanio’ yn eich gardd chi, rhaid i chi roi rhodd i’r elusen i gael gwared arnyn nhw.

“Mae’n dipyn o hwyl achos rydan ni’n mynd â’r fflamingos i’w lleoliad dros nos, felly mae’n eithaf dirgel,” meddai Bethan Mai Jones o Gwmann, un o drefnwyr yr ymgyrch.

Y syniad

Fe gafodd y criw’r syniad wedi i un o’r trefnwyr, Carole Price o Ddyffryn Aeron, gael triniaeth a theimlo ei bod eisiau cyfrannu at yr Uned Cemotherapi yn Aberystwyth.

A hithau’n gweithio yn Adran Addysg Cyngor Ceredigion, fe berswadiodd griw o’i chydweithwyr i gerdded 22 milltir o Dalsarn i Aberystwyth ar ddydd Calan eleni i godi arian.

Wedi hynny, fe gawson nhw’r syniad o dargedu’r fflamingos pinc ar wahanol fusnesau ac mae rhai wedi cyfrannu cymaint â £50 neu £100 i gael gwared ar yr adar.

O America

“Rhywbeth o America ydy o’n wreiddiol gyda’r enw ‘You’ve been flocked’,” esboniodd Bethan Mai Jones.

“Rydan ni wedi dosbarthu’r fflamingos i tua 15 o wahanol fusnesau erbyn hyn, ac mae’r lliw pinc yn ffordd amlwg o gysylltu â chanser y fron,” meddai.

Er nad oedd hi’n barod i ddatgelu ble fyddai eu targed nesaf, dywedodd: “Mae yna obaith efallai i wneud Dai Jones Llanilar rywbryd!”

Dawns nos Sadwrn

Mae Dawns, Cinio ac Ocsiwn yn Neuadd Prifysgol y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan nos Sadwrn, Ebrill 1, i godi arian.