Pamela Lancaster (Llun: Heddlu Gwent)
Mae dynes a gafodd ei tharo gan gar wrth gerdded yng Nghasnewydd wythnos ddiwethaf, wedi marw yn yr ysbyty.

Cafodd Pamela Lancaster, 47, ei tharo gan gar Ford Focus arian yn Clarence Place, Casnewydd tua 1.30yp pnawn dydd Iau, Mawrth 23.

Cafodd ei chludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd ond bu farw o’i hanafiadau’r wythnos hon.

Dywed Heddlu Gwent bod teulu Pamela Lancaster yn derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol.

Mewn teyrnged iddi dywedodd ei theulu: “Mi fydd pawb o’r teulu yn gweld ei heisiau hi. Hoffwn ddiolch i’r gwasanaethau brys ac uned gofal dwys staff Ysbyty Athrofaol Caerdydd am eu help a’u caredigrwydd.”

Mae Heddlu Gwent wedi apelio am wybodaeth yn gysylltiedig â’r gwrthdrawiad.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth yn gysylltiedig â’r gwrthdrawiad gysylltu â Heddlu Gwent ar 101 gan nodi rhif cyfeirnod 283 ar gyfer Mawrth 23.