Llun: PA
Mae adroddiad sydd wedi’i gyhoeddi gan fudiad Cytûn (Eglwysi Ynghyd yng Nghymru) wedi gosod blaenoriaethau i Gymru yn ystod y trafodaethau i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Daw’r adroddiad ar y diwrnod pan fydd Prif Weinidog Prydain, Theresa May yn tanio Erthygl 50 i ddechrau’r broses ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae prif egwyddorion yr eglwysi’n cynnwys gwarchod hawliau plant, pobol ifanc, pobol anabl a phobol oedrannus.

Maen nhw hefyd yn galw am hawliau dynol o safbwynt yr iaith Gymraeg a lleiafrifoedd ethnig, yn ogystal â chyfreithiau i warchod yr amgylchedd, cefn gwlad a diwydiannau gwledig.

Yn ôl yr adroddiad, dylid cydnabod y rhaniadau oedd wedi cael eu hamlygu yn ystod yr ymgyrchu o blaid ac yn erbyn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a mynd ati i’w trwsio.

Mewn datganiad, dywedodd cadeirydd Cytûn, Dr Patrick Coyle fod “rhaid i ni fod yn gefn i bobol y mae eu bywydau wedi newid mewn ffyrdd na fyddent fyth yn eu dymuno”.

“Rhaid deall yr anniddigrwydd ddaeth i’r golwg mewn cymunedau sydd heb elwa o’r globaleiddio a ddigwyddodd a chymryd camau i geisio meithrin datblygiad yr ardaloedd hynny.

“Rhaid wynebu’r hiliaeth a’r senoffobia cudd a ddatgelwyd gan ymgyrch y refferendwm.”

Cysuro a chalonogi

 

Yn ôl Dr Patrick Coyle, rôl yr eglwysi yn y cyfnod o ansicrwydd sydd ar droed yn sgil Brexit yw “cysuro a chalonogi” pobol ac i “feithrin heddwch a chymod”.

Cafodd gweithgor ei sefydlu haf diwethaf ar gais Undeb yr Annibynwyr Cymraeg er mwyn cyflwyno tystiolaeth i bedwar Pwyllgor Dethol yn y Cynulliad a San Steffan.

Yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Dr Geraint Tudur, rôl Cristnogion yn y broses yw “cyfrannu mewn modd adeiladol a chadarn at y drafodaeth a’r broses ddemocrataidd”.

Ychwanegodd y Parchedig Carol Wardman o’r Eglwys yng Nghymru: “Tra’i bod yn bwysig nad yw Cymru’n dioddef anfantais o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd a’n bod yn cadw cyfeillgarwch a chymdeithas gyda’r cymdogion Ewropeaidd, mae hefyd yn bwysig i gydnabod yr anghyfartaledd a’r dadrithiad a barodd i bobl, yn arbennig yn rhannau tlotaf Cymru, i bleidleisio dros Brexit.

“Nid yw cymdeithas Eglwys Crist yn cydnabod unrhyw ffiniau a gelwir Cristnogion i weithio dros gymod – felly, mae’r eglwysi mewn sefyllfa ddelfrydol i adlewyrchu ar ein sefyllfa gyfredol ac i ystyried sut mae symud ymlaen gyda’n gilydd mewn cariad.”

Undeb y Bedyddwyr

Dywedodd y Parchedig Denzil John, o Undeb Bedyddwyr Cymru, fod y Gweithgor wedi bod yn fodd i’r enwadau gwahanol ddarganfod llais cyffredin wrth iddyn nhw ymateb i’r newidiadau a ddaw i Gymru yn dilyn Brexit.

“Mae hwn yn gyfle i ni fynd i’r afael â rhai o’r materion sylfaenol sydd yn ein herio fel cenedl, a’u deall mewn cyd-destun Ewropeaidd a byd-eang.

“Mewn cyfnod o ansicrwydd, mae gan yr eglwys rôl bwysig i’w chwarae o gynnig sefydlogrwydd.”