Mae risg y bydd y byrddau iechyd cyn hir yn cael eu gorfodi i dorri gwasanaethau hollbwysig, meddai'r Ceidwadwyr Cymreig
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud na fyddan nhw’n ysgwyddo baich pedwar bwrdd iechyd yng Nghymru sy’n wynebu trafferthion ariannol.

Mae adroddiadau fod gorwariant rhai o’r byrddau iechyd wedi treblu yn ystod blwyddyn ariannol 2016/17, ac maen nhw’n cynnwys Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Caerdydd a’r Fro, Abertawe Bro Morgannwg a Hywel Dda.

“Mae’r rhagolwg ariannol a’r methiant i gynhyrchu cynlluniau ariannol cynaliadwy, cymeradwy yn ffurfio rhan o’r penderfyniad i roi’r sefydliadau hyn i ymyrraeth dargedol,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth Golwg360.

“Mae sefyllfa’r pedwar bwrdd iechyd hyn yn annerbyniol, ac rydym wedi ei gwneud hi’n glir ein bod yn disgwyl iddyn nhw weithredu i wella’n sylweddol eu sefyllfa ariannol

“Byddwn ni ddim yn cymeradwyo cynlluniau na fydd yn cyflawni’r gwelliannau hyn,” meddai’r llefarydd gan ychwanegu: “cyfrifoldeb sefydliadau unigol y GIG Cymru yw rheoli eu ffynonellau ariannol.”

‘Risg go iawn’

Ond yn ôl Angela Burns, AC y Ceidwadwyr Cymreig, mae’r sefyllfa hon yn dangos fod y “gwasanaeth iechyd yn simsanu.”

“Mae risg go iawn y bydd y byrddau iechyd cyn hir yn cael eu gorfodi i dorri gwasanaethau hollbwysig i wneud arbedion, a’r cleifion a’r staff fydd yn gorfod talu’r pris,” meddai.

Dros y dyddiau nesaf mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, gwrdd â staff y gwasanaeth iechyd ar gyfer sesiwn holi ac atbe gan ddechrau gyda Bwrdd Iechyd Caerdydd a Bro Morgannwg.