Mae elusen Mind Cymru wedi galw am ail-gyflwyno unedau iechyd meddwl ar gyfer mamau a babanod yng Nghymru.

Cafodd yr olaf o unedau Cymru ei chau yn 2013, gan orfodi cleifion i deithio i Loegr.

Mae unedau o’r fath yn darparu gofal arbenigol ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl megis iselder ôl-enedigaeth a seicosis postpartum.

Mae oddeutu 10-15% o famau newydd yn dioddef o iselder.

‘Amhriodol ac annerbyniol’

Mewn datganiad, dywedodd Swyddog Polisi ac Ymgyrchoedd Mind Cymru, Rhiannon Hedge: “Heb gefnogaeth yma yng Nghymru, mae’n rhaid i famau gael eu trin nifer o filltiroedd i ffwrdd o’u teuluoedd a’u rhwydweithiau cefnogaeth.

“Mae’n gwneud yr hyn sydd eisoes yn sefyllfa anodd yn fwy anodd o lawer.

“Tra bod cefnogaeth gymunedol yn bwysig, mae adegau pan fo gofal arbenigol fel claf mewnol yn angenrheidiol ac ar adegau felly, mae’n amhriodol i fenywod fod mor bell i ffwrdd o’u teuluoedd.

“Tra nad yw’n wasanaeth y mae nifer fawr o bobol ei angen, mae’n annerbyniol na all y rheiny sydd ei angen e yn methu cael mynediad i’r gefnogaeth hon.

“Ry’n ni’n gwybod fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gofal gwell i bobol â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru, ac rydym yn croesawu’r buddsoddiad mewn cefnogaeth amenedigol gymunedol.

“Fodd bynnag, rydym yn gofidio nad yw’r cynllun cyflwyno y tu ôl i Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yn mynd yn ddigon pell wrth fynd i’r afael â’r bylchau mewn gofal amenedigol arbenigol.”